Terry James
Mae un o actorion Hollywood wedi bod yn talu teyrnged i’r arweinydd a’r cyfansoddwr Dr Terry James.

A’i wreiddiau yng Nghydweli, fe raddiodd Terry James mewn cerddoriaeth o Brifysgol Rhydychen gan dderbyn doethuriaeth yno hefyd.

Bu’n byw am gyfnod yn Llundain cyn symud i’r Unol Daleithiau am ran helaeth o’i fywyd a dychwelyd i Gaerfyrddin yn ddiweddarach.

Fe arweiniodd Gôr Cymry Llundain mewn cyngherddau, gan gynnwys cyngherddau yn Neuadd Albert, a bu hefyd yn llywydd ar gymdeithas Celfyddydau Caerfyrddin.

Fe aeth ymlaen i sgwennu ar gyfer ffilmiau Hollywood gan gyd-weithio gydag actorion fel Michael Douglas, Jodie Foster a Kris Kristofferson.

Mae’n cael ei gofio fel cymeriad mawr iawn a gŵr annwyl dros ben.

Dywedodd yr actor Jared Harris o Mad Men amdano ar ei gyfrif Trydar: “Terry James, am lwcus oedden ni i fod yn rhan o dy fywyd. Nid oedd neb yn medru profi cyfeillgarwch mwy triw.”