Steffan Rhys Hughes (Llun: Yr Urdd)
Ag yntau’n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau Eisteddfodau Cymru, Steffan Rhys Hughes o Sir Ddinbych gipiodd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel eleni.

Mae Steffan Rhys Hughes, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych ac Ysgol Glan Clwyd yn derbyn ysgoloriaeth £4,000 wedi’i noddi gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant i’w gynorthwyo i ddatblygu fel perfformiwr.

Dyma’r drydedd tro iddo gystadlu am yr ysgoloriaeth, ac mae bellach yn astudio cwrs BMus ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n arweinydd côr Y Waun Ddyfal yn y brifddinas.

‘Cyfareddol’

Disgrifiodd y pum beirniad Ann Atkinson, Owain Llwyd, Gwennan Gibbard, Meinir Siencyn ac Ann Fychan berfformiad Steffan Rhys Hughes fel un “cyfareddol”.

Roedd disgwyl iddo gyflwyno perfformiad gwerth 12 munud, a dewisodd y caneuon ‘Cyrraedd Pen y Siwrnai’, ‘Nid fi yw mab fy Nhad’, ‘Mae gen i Freuddwyd’, ‘Tannau Tawe 02’ a ‘Ti go iawn’.

Mae’r gystadleuaeth yn benllanw llwyddiannau Eisteddfod yr Urdd, a’r cystadleuwyr eraill oedd Rhydian Jenkins, Bethan Elin, James Coleman, Meilir Jones a Lleucu Parri.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Y Stiwt, Rhosllannerchrugog neithiwr (nos Sul, Hydref 16) ac fe gafodd ei darlledu ar S4C.