Y ddiweddar Sioned James (Llun o wefan Côrdydd)
Fe fydd oedfa arbennig yn cael ei chynnal yng nghapel Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd bnawn Sadwrn i ddathlu bywyd yr arweinydd côr, Sioned James.

Bu farw yn 41 oed ar Orffennaf 19 eleni, a hithau’n wyneb cyfarwydd yn y byd corawl ac yn sylfaenydd Côrdydd.

Yn wreiddiol o Bont Tweli ger Llandysul, ganed Sioned Nest James ym mis Medi 1974, a symudodd i Gaerdydd gyda’i gŵr, y cyflwynydd teledu, Gareth Roberts, ar ôl priodi.

Ei chyfnod yn yr ysgol…

Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, ac fe gafodd ei hyfforddi gan ei hathro cerdd yno, Islwyn Evans, ynghyd â John Hugh Thomas.

Bu’n aelod o sawl côr gan gynnwys Cantorion Teifi a Chôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, ac fe gafodd gyfle i arwain côr Ysgol Gerdd Ceredigion pan oedd yn 16 oed.

Yn ôl Islwyn Evans, byddai’n canu â llais soprano bryd hynny, ond dywedodd ei bod wedi troi at ganu alto yn ddiweddarach yn ei bywyd.

Pan oedd yn y chweched dosbarth, bu’n rhaid iddi gymryd ychydig amser i ffwrdd er mwyn gwella o anafiadau ar ôl iddi fod mewn damwain car ddifrifol iawn. Ond wedi hynny, aeth ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio Cymraeg a Cherdd ar y cyd, gan adael gyda Dosbarth Cyntaf.

Côrdydd

Ar ôl ei chyfnod yn y Brifysgol, penderfynodd Sioned James sefydlu côr ieuenctid Cymraeg yn y brifddinas yn y flwyddyn 2000, sef Côrdydd.

Daeth sawl llwyddiant i’r côr hwnnw wrth iddynt ennill Côr yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Cymru bum gwaith (yn cynnwys eleni, bythefnos wedi ei marwolaeth) ynghyd ag ennill cystadleuaeth Côr Cymru Radio Cymru yn 2003 a chael y cyfle i deithio i bedwar ban byd.

Bu Sioned James yn flaengar wrth gydweithio â chyfansoddwyr rhyngwladol gan gynnwys Eric Whitacre, Morten Lauridsen, Paul Mealor a John Rutter.

Trefnodd fod Côrdydd yn recordio cryno ddisg yn y Gymraeg o Requiem John Rutter gyda’r gantores Elin Manahan Thomas, ac mae’r ddau wedi cyfrannu at y deyrnged hon.

Bu’n gweithio am gyfnod fel asiant ar gyfer actorion a chyflwynwyr teledu, a threuliodd gyfnod fel darlithydd rhan amser ar y cwrs Theatr, Cyfryngau a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant.

Yr oedfa goffa

Yn rhan o’r oedfa ddydd Sadwrn, bydd cyfraniadau gan Gôrdydd, Gwawr Edwards a Trystan Llŷr Griffiths.

Bydd Huw Foulkes, arweinydd presennol Côrdydd, ynghyd ag Islwyn Evans a John Hugh Thomas yn arwain y côr yn ystod yr oedfa.

Bydd teyrngedau hefyd iddi gan Alwyn Humphreys a Keith Davies.

Mae teyrngedau i Sioned James ar y clip fideo hwn: