Fe fydd bandstand newydd gwerth £1.2 miliwn ar bromenâd Aberystwyth yn cael ei agor yn swyddogol heddiw.

Ysgrifennydd y llywodraeth dros gymunedau, Carl Sargeant a Chadeirydd Cyngor Ceredigion, Cynghorydd Dai Mason, fydd yn torri’r rhuban.

Fe gafodd y cwt band gwreiddiol ei adeiladu yn 1935 ei chwalu gan stormydd garw Ionawr 2014, ac fe gafodd ei ddymchwel.

Mae’r gwaith i gwblhau’r bandstand newydd wedi oedi, gyda’r adeiladwyr yn beio stormydd garw, llanw uchel a cheblau dan ddaear.