Cafodd gwaith corawl arbennig gan Karl Jenkins ei berfformio am y tro cyntaf nos Sadwrn ar drothwy hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan.

Cafodd 144 o bobol, gan gynnwys 116 o blant o Ysgol Gynradd Pantglas, eu lladd yn dilyn tirlithriad yn y pentref glofaol ar Hydref 21, 1966.

Cafodd Cantata Memoria ei chomisiynu gan S4C ar gyfer yr achlysur, ac fe gafodd gwaith Jenkins a’r Prifardd Mererid Hopwood, ‘Cantata Memoria’ ei berfformio gan Sinfonia Cymru a chôr o dros 150 a chôr o 116 o blant mewn cyngerdd arbennig yng Nghanolfan y Mileniwm.

Yn ôl Karl Jenkins, roedd diben deublyg i’r gwaith, sef cofio am Aberfan ond hefyd dathlu plentyndod.

Ymhlith y perfformwyr eraill ar y noson roedd Bryn Terfel, Catrin Finch, Elin Manahan Thomas, David Childs, Côr Meibion Ynysowen a nifer o gorau ysgolion yr ardal.

Bydd modd gwylio’r digwyddiad ar S4C nos Sul am 7.30pm.