Cliff Thomas o Bontyclun (Llun: Facebook Dawn Roderick)
Mae cyn-aelod o gôr Only Men Aloud yn galw ar ei gyd-gerddorion i ymuno ag o i greu côr meibion ar gyfer angladd dyn o Bontyclun, Rhondda Cynon Taf.

Bu farw Cliff Thomas yn 77 oed yn dilyn trawiad ar y galon, a’i ddymuniad olaf oedd i gôr meibion ganu’r gan ‘Myfanwy’ yn ei angladd, yn ôl ei ferch.

Mae Dawn Roderick wedi cyhoeddi apêl ar wefan gymdeithasol i ddod o hyd i gôr erbyn yr angladd ddydd Gwener. Ond er bod ei neges wedi cael ei rannu dros 4,000 o weithiau, nid yw hi wedi medru dod o hyd i gôr.

Erbyn heddiw, mae Aled Powys Williams, fu’n canu hefo Only Men Aloud ac sydd hefyd yn unawdydd a beirniad cerdd amlwg, wedi cyhoeddi apêl ei hun i geisio ffurfio côr yn arbennig ar gyfer yr angladd.

Mae tua phymtheg o’i gyfeillion wedi dweud y bydden nhw’n medru bod yno i ganu ond mae’n gobeithio y bydd y nifer hwnnw’n codi.

Mae nifer o sêr eraill, gan gynnwys yr actor o Bort Talbot, Michael Sheen, hefyd wedi rhannu apêl Dawn Roderick.

‘Trist’

Dywedodd wrth golwg360: “O’n i’n teimlo ei fod yn beth trist bod dim un o’r corau yn gallu ateb y galw fel petai. Ond nath un o’r bois ddechre trefnu ar Facebook a ni’n aros i glywed os bydd angen ni yno. Mae un o fy ffrindiau yn barod i deithio lan o Lundain i ganu hyd yn oed.

“Y peth pwysicaf yw cael rhywun i ganu ’na. Os taw aelod o fy nheulu i oedd e ac o’n i moyn côr ’na… byddwn i’n gwneud yr un peth.”

Bydd yr angladd yn cael ei chynnal ddydd Gwener 23 Medi yng Nghapel Bethel, Pontyclyn.