Fe fydd côr newydd sbon yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd fis nesa’ – a hynny ar gyfer pobol sy’n rhoi cur pen i bobol eraill wrth iddyn nhw drio canu.

Ar Fedi 11, bydd Côr Di Dôn yn cael ei lansio yng Nghaerdydd, a’r rociwr, Mei Gwynedd, cyn-aelod o’r Big Leaves ac un o frodyr cerddorol Sibrynion, yn ei arwain.

Ond fe ddaeth y syniad o Nottingham, pan fu Rheolwraig y côr, Jessica Davies-Timmins, yno’n gweithio ar brosiect arall. Meddai Jessica: “On’i’n gweithio ar ymgyrch Sing Your Heart Out gan y Royal Voluntary Service , a des i ar draws Côr Di Dôn yn Nottingham. Am syniad gwych, meddyliais!  Gofynnais os o’n i’n gallu sefydlu rhywbeth tebyg yng Nghaerdydd… a dyma ni.”

Mae’r côr ar gyfer pobol sydd wrth eu bodd yn canu ond heb y gallu, y profiad na’r hyder i wneud.

Mi fydd Côr Di Dôn Caerdydd yn gweithredu’n ddwyieithog, ac mae croeso mawr i bawb cymryd rhan. Fe fydd y sesiwn cyntaf yn cael ei chynnal ddydd Sul, Medi 11 o 7.30yh i 9.30yh, yng nghampfa Aspire Fitness, Treganna.

Mae’n bosib cael mwy o wybodaeth wrth ebostio cardiff@tunelesschoir.com.