Parc Eirias ym Mae Colwyn
Mae bron bob tocyn i eistedd ar gyfer Proms yn y Parc ym Mae Colwyn wedi’u gwerthu, yn ôl trefnwyr y digwyddiad ym Mharc Eirias ar Fedi 10.

Mae bron i 2,000 o docynnau eisoes wedi’u gwerthu, ac mae nifer o docynnau’n dal ar gael am £12.50 (cyffredinol) a £15 (eistedd).

Ar ôl Mehefin 30, bydd y prisiau’n codi i £17.50 ac £20.

Dywedodd Pennaeth Marchnata a Digwyddiadau’r BBC, Gareth Davies: “Rwy wrth fy modd fod gwerthiant tocynnau mor belled wedi bod yn galonogol.

“Mae Parc Eirias yn lleoliad sydd wedi hen ymsefydlu ar gyfer digwyddiadau o’r radd flaenaf, ac rwy’n falch ein bod ni’n gallu dod â’r Proms yn y Parc i’r dref. Mi ddylai fod yn noson gofiadwy ym mis Medi.”

Eisoes, daeth cadarnhad y bydd Cerddor Ifanc y BBC 2016, Sheku Kanneh-Mason yn perfformio.

Yn dilyn ei berfformiad ar y soddgrwth ar raglen Britain’s Got Talent, fe gafodd Sheku o Nottingham ei enwi’n Gerddor Ifanc y Flwyddyn gan y BBC ac mae e eisoes wedi perfformio ar Radio 3 a Radio 4.