Mae Ghazalaw yn fand poblogaidd yng Nghymru ac India erbyn hyn
Mae’r band Ghazalaw yn gobeithio dod i’r brig yng ngwobrau gwerin Radio 2 nos Fercher.

Mae ‘Moliannwn (Ishq Karo)’ wedi’i enwebu yng nghategori’r Trac Traddodiadol Gorau, a hynny am gyfuno’r gân werin Gymraeg draddodiadol gyda’r ghazal (cân serch) Indiaidd draddodiadol.

Mae’r trac yn ymddangos ar albwm gyntaf y band, a gafodd ei rhyddhau fis Medi y llynedd.

Hanes y band

Cafodd y grŵp gwerin ei ffurfio yn 2012 ar ôl i Gwyneth Glyn a Tauseef Akhtar o ddinas Mumbai ddod at ei gilydd am y tro cyntaf yn y Tŷ Crwn ym Mro Morgannwg i arbrofi gyda chaneuon serch y ddau draddodiad cenedlaethol.

Ar drothwy rhyddhau’r albwm, dywedodd Gwyneth Glyn wrth Golwg360: “Dechreuodd y cywaith ’ma trwy mod i a Tauseef yn iste hefo’n gilydd o flaen y tân yn y Tŷ Crwn, ac o’n ni’n rhannu barddoniaeth a cherddoriaeth hefo’n gilydd.

“Bydde fo’n canu neu gyfieithu ychydig o benillion o ghazal ac wedyn, fydde hynna’n fy atgoffa i o ryw alaw werin neu o ryw hen bennill.

“Mewn ffordd, roedden nhw’n dueddol o adlewyrchu’i gilydd.”

Bellach, fe ymunodd Georgia Ruth Williams â’r deuawd, ynghyd ag Ashish Jha, Manas Kumar a Sanjoy Das i ffurfio un o grwpiau gwerin mwyaf cyffrous y byd cerddoriaeth Gymraeg cyfoes.

Mae Ghazalaw wedi perfformio ym Mumbai, Delhi, Kolkata, Chennai, yng ngŵyl WOMEX yng Nghaerdydd ac fel rhan o daith Gorwelion.

Dyma’r enwebiadau llawn ar gyfer y categori:

Sam Lee – Lovely Molly

Ghazalaw – Moliannwn (Ishq Karo)

Stick In The Wheel – Seven Gypsies

The Furrow Collective – The Unquiet Grave

Y noson

Bydd y seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal nos Fercher yn yr Albert Hall yn Llundain, ac yn cael ei chyflwyno gan Mark Radcliffe a Julie Fowlis.

Ymhlith y perfformwyr ar y noson mae Mark Knopfler a Joan Armatrading, a hithau’n derbyn Gwobr Cyfraniad Oes ynghyd â Norma Waterson.

Bydd y Wobr Traddodiad Da, a gafodd ei hennill gan y diweddar Meredydd Evans yn dilyn ei farwolaeth y llynedd, yn mynd i’r Albanwr John McCusker eleni.

Bydd y seremoni’n cael ei darlledu’n fyw ar Radio 2 rhwng 7.30 a 10 o’r gloch nos Fercher, a bydd modd ei gwylio’n fyw ar wefan Radio 2 ac ar iPlayer y BBC a’r botwm coch ar deledu digidol yn ddiweddarach.

Mae’r cyflwynydd Simon Mayo hefyd yn darlledu rhaglen arbennig nos Fercher cyn y seremoni, a bydd rhai o’r cerddorion sydd wedi’u henwebu yn y category Cerddor Gwerin Ifanc yn perfformio’n fyw ar y rhaglen.