Romania yw’r wlad gyntaf yn hanes yr Eurovision i gael ei gwahardd o’r gystadleuaeth, a hynny wedi i’r darlledwr cenedlaethol yno fethu â thalu am yr hawl i ddangos y jambori gerddorol.

Dywedodd yr Undeb Ddarlledu Ewropeaidd, sy’n cynhyrchu’r gystadleuaeth flynyddol, fod y penderfyniad wedi’i wneud ar ôl i Televiziunea Romana (TVR) fethu â thalu ei ddyledion o dros £11 miliwn.

Mae’r darlledwr hefyd yn colli’r hawliau i ddarlledu digwyddiadau chwaraeon, cyfreithiol a thechnegol penodol, a gwasanaethau ymchwil a lobïo.

Bu Romania yn rhan o’r gystadleuaeth ers 1994, gan gyrraedd y rownd derfynol sawl gwaith.