Bydd Mike Peters yn camu i'r llwyfan ar ôl dychwelyd o America (llun: Yr Urdd)
Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi mai prif leisydd band The Alarm fydd yn serennu yng nghyngerdd agoriadol yr ŵyl yn Sir y Fflint eleni.

Mae Mike Peters, y seren roc sy’n wreiddiol o Brestatyn, ar daith yn America ar hyn o bryd.

Ond fe ddywedodd na allai feddwl am “ffordd well o orffen y daith na dychwelyd i Gymru”.

Mae gan yr artistiaid eraill sy’n rhan o’r cyngerdd gysylltiad â’r ardal hefyd, gan gynnwys Mark Evans y seren Broadway, a Richard ac Adam y cantorion clasurol o Dreffynnon a ddaeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Britain’s Got Talent, 2013.

Yn ogystal, fe fydd Caryl Parry Jones a’i chymeriadau amrywiol yn diddanu’r gynulleidfa, ac mae ganddi gymeriad arbennig ar y gweill at yr eisteddfod eleni – sef ‘Fflint Eastwood’.

‘Eisin ar y gacen’

Dywedodd Mike Peters ei fod yn edrych ymlaen at y gyngerdd agoriadol, a’r “eisin ar y gacen yw y bydd fy nau fab, Dylan ac Evan, yno hefyd.

“Mae’r ddau wrth eu bodd yn canu, chwarae’r gitâr a’r piano a bydd Dylan yn cystadlu yn yr Eisteddfod gydag Ysgol Glan Clwyd, felly bydd yn ddigwyddiad teuluol go iawn.”

‘Sêr y dyfodol’

Dywedodd Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, y bydd y sêr hyn yn “rhannu llwyfan â sêr y dyfodol,” wrth i aelodau o gôr hŷn ac iau Cytgan Clwyd, Côr Ysgol Maes Garmon, Band Jazz Castell Alun a phobl ifanc yr ardal yn cyfrannu at y gyngerdd.

“Rydym wedi llwyddo i gael artistiaid byd enwog i berfformio eleni a bydd hwn yn siŵr o fod yn gyngerdd gwerth ei weld,” meddai Aled Sion.

Caiff y gyngerdd ei chynnal ar nos Sul agoriadol yr ŵyl sy’n digwydd rhwng 30 Mai 30 a 4 Mehefin, ac fe fydd yn cael ei darlledu ar S4C.