Mae angladd prif leisydd Motorhead, Ian ‘Lemmy’ Kilmister, wedi’i gynnal yn Los Angeles.

Bu farw’r canwr 70 oed ar ôl y Nadolig, ddeuddydd yn unig wedi iddo gael gwybod ei fod yn dioddef o ganser.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, ac yno y cafodd ei ffugenw.

Aeth ymlaen i ffurfio’r band Motorhead gyda’r gitarydd o Bontypridd, Phil Campbell, fu’n aelod o’r band am 31 o flynyddoedd.

Ymhlith y rhai fu’n rhannu eu hatgofion ohono yn y gwasanaeth roedd Dave Grohl (Foo Fighters a Nirvana), gitarydd Guns N’ Roses Slash a Lars Ulrich a Robert Trujillo o’r band Metallica.

Cafodd y gwasanaeth ei ddarlledu’n fyw ar y we a chafodd ei wylio gan fwy na 280,000 o bobol ym mhob cwr o’r byd.

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Dave Grohl fod gan ‘Lemmy’ “y galon fwyaf” a’i fod “mor garedig”.

Dywedodd mab ‘Lemmy’, Paul Inder fod ei dad yn benderfynol o barhau i berfformio er gwaethaf salwch ar ddiwedd ei fywyd.

“Doedd e ddim yn ddyn crefyddol ac roedd gweddio am wyrth yn rhywbeth y byddai wedi’i ystyried yn weithred ledrithiol, ond roedd e’n ysbrydol dros ben.”

Dywedodd Slash ei bod yn “anrhydedd” cael bod yn ffrind i ‘Lemmy’, a bod ganddo “fwy o onestrwydd mewn un bys nag oedd gan ystafell lawn o bobol roc a rôl”.

Gyrfa

Yn enedigol o Swydd Stafford, daeth ‘Lemmy’ i amlygrwydd fel aelod o’r band Hawkwind yn 1971, ond cafodd ei ddiswyddo yn 1975 wedi iddo gael ei arestio am resymau’n ymwneud â chyffuriau.

Ffurfiodd y band Motorhead yn 1975, ac roedd disgwyl iddyn nhw fynd ar daith eleni.

Bu farw aelod arall o’r band, Phil Taylor y llynedd.