Ifan Jenkin yn canu yn y fideo diweddaraf
Mae cyn-aelod o Only Boys Aloud sydd bellach yn rhan o grŵp a capella ym Mhrifysgol Rhydychen yn gobeithio y gall cân ddiweddaraf y grŵp efelychu llwyddiant ysgubol eu fideo Nadolig llynedd.

Y flwyddyn ddiwethaf fe recordiodd grŵp Out Of The Blue eu fersiwn unigryw nhw o gân Nadolig ‘All I Want For Christmas Is You’ gan Mariah Carey, sydd bellach wedi cael ei gwylio dros ddwy filiwn o weithiau ar YouTube.

Ac mae Ifan Jenkin, sydd yn ei ail flwyddyn yn astudio Meddygaeth yng Ngholeg Hertford Rhydychen, wedi bod yn ychwanegu ei lais Cymreig yntau i gân ddiweddaraf y grŵp, ‘Santa Baby’.

Mae’n rhan o ymgyrch Out Of The Blue i godi arian ar gyfer elusen Helen & Douglas House, hosbis sy’n edrych ar ôl plant ac oedolion ifanc â salwch hirdymor.

Dyma fideo diweddaraf y grŵp, wrth iddyn nhw ganu o flaen rhai o leoliadau mwyaf eiconig y ddinas:

Gyda 12 aelod yn y grŵp, yn gymysgedd o fyfyrwyr o Brifysgol Rhydychen ac Oxford Brookes, mae Ifan Jenkin yn cyfaddef ei bod hi’n cymryd tipyn o ymarfer i gael lleisiau pawb yn asio gyda’i gilydd.

Ond y gobaith yw y bydd eu cân ddiweddaraf, sydd eisoes wedi cael ei gwylio bron i 120,000 o weithiau, yn efelychu llwyddiant un llynedd.

“Ni’n eithaf prysur yn ystod y flwyddyn, ac mae’n eithaf caled i wneud y gradd ynghyd â’r canu yma, ond mae’n lot o hwyl,” meddai’r myfyriwr sydd yn wreiddiol o Bencoed ym Mhen-y-bont wrth Golwg360.

“Bob blwyddyn ni’n tueddu i wneud cân i’n helusen ni, Helen & Douglas House, a hefyd ni’n hoffi mynd i ganu i’r plant unwaith y tymor.

“Felly ni’n trio codi cymaint o arian a ni’n gallu iddyn nhw, llynedd fe godon ni tua £10,000, a’r gôl yw trio gwneud rhywbeth tebyg eleni.”