Mae cyfarwyddwyr Sain wedi cyhoeddi nad ydyn nhw bellach yn ystyried gwerthu’r cwmni recordio er gwaethaf “llawer o ddiddordeb”.

Yn lle hynny fe fyddan nhw’n chwilio am bobl newydd i fuddsoddi yn y label, a gafodd ei sefydlu nôl yn 1969 i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg.

Cafodd y penderfyniad ei wneud yn rhannol oherwydd eu bod yn awyddus i ddatblygu gwasanaeth ffrydio newydd Apton, allai olygu ei bod hi’n haws i bobl wrando ar gerddoriaeth Gymraeg ar y we.

‘Llawer o ddiddordeb’

Mewn datganiad fe ddywedodd cyfarwyddwyr Sain Dafydd Iwan, Hefin Elis ac OP Huws bod y datblygiad newydd yn rhannol gyfrifol am newid eu penderfyniad.

“Er bod llawer o ddiddordeb wedi cael ei ddangos gan brynwyr posib, y mae posibiliadau cyffrous y datblygiad newydd o greu Apton, a fydd yn wasanaeth ffrydio i holl labeli Cymru, ynghyd â’r diddordeb a ddangoswyd gan wledydd eraill i ehangu’r gwasanaeth yn rhyngwladol, wedi’n hargyhoeddi mai chwilio am fuddsoddwyr newydd yw’r ffordd orau ymlaen,” medden nhw.

“Credwn hefyd fod yr archif o recordiadau a’r caneuon a gasglwyd ynghyd gennym dros y blynyddoedd yn drysor rhy werthfawr i’w adael ar drugaredd marchnad ansicr, ac felly penderfynwyd mai sicrhau partneriaeth ehangach yw’r dewis gorau er lles y diwydiant cerdd yng Nghymru.”

Lansio yn 2016

Mae disgwyl i wasanaeth Apton, fydd ar gael ar Android ac iOS, gael ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi 2016.

Y bwriad fydd talu cerddorion sydd â’u cerddoriaeth ar y gwasanaeth, 10c bob tro mae eu caneuon yn cael eu ffrydio, yn hytrach na’r 0.3c mae gwasanaethau fel Spotify yn ei dalu.

Mae disgwyl y bydd rhaid i ddefnyddwyr dalu tua £5 y mis i danysgrifio i Apton, gyda’r opsiwn o gynyddu hwnnw o £7.50 y mis ar gyfer cyfrif premiwm.

“Wrth agor y bennod newydd hon yn hanes y byd cerdd a recordio yng Nghymru, pennod  a fydd yn cynnig cyfle i holl labeli Cymru i gydweithio, edrychwn ymlaen yn hyderus at gydweithio hefyd gyda rhai fydd yn barod i fuddsoddi yn y datblygiad cyffrous ac arloesol hwn,” ychwanegodd y cyfarwyddwyr.

“Er gwaetha’r holl ffactorau negyddol byd-eang sy’n effeithio ar y diwydiant cerddoriaeth ar hyn o bryd, rydym yn falch o fedru taro nodyn cadarnhaol o obaith a her i gerddorion Cymru’r dyfodol drwy gamu’n hyderus i’r byd digidol newydd.”