Mae dau bâr o frodyr yn canu gyda’i gilydd ar un o’r traciau oddi ar albwm newydd Brigyn sydd wedi cael ei hysbrydoli gan Batagonia.

Cafodd albwm diweddaraf Brigyn, Dulog, ei ryddhau’r wythnos hon a hynny dim ond blwyddyn ers i’r ddau frawd, Ynyr ac Eurig Roberts, ryddhau eu casgliad diwethaf Brigyn 4.

Mae’r Wladfa yn thema amlwg yn yr albwm newydd, sydd wedi’i henwi ar ôl anifail bach sydd yn troedio’i thiroedd a chyfeiriadau uniongyrchol at hanes Patagonia mewn caneuon fel ‘Malacara’, ‘Ana’, ‘Dôl y Plu’, a ‘Pentre sydyn’.

Mae’r gân ‘Fan hyn (Aquí)’ hefyd yn cynnwys y brodyr Alejandro a Leonardo Jones o Drevelin, sy’n cyd-ganu ag Ynyr ac Eurig yn y Gymraeg a’r Sbaeneg.

Dyma flas arbennig i chi o’r ddeuawd (wel, pedwarawd!):

‘Lleisiau secsi’

Mae sŵn offerynnol y bandoneon, sydd yn cael ei chwarae gan Nicolas Avila o Batagonia, hefyd yn amlwg ar draciau’r albwm, ac mae’r gân ‘Ffenest’ yn ddeuawd gyda’r gantores Casi Wyn.

Mewn cyfweliad diweddar â Golwg dywedodd Ynyr Roberts eu bod wedi mwynhau gweithio ag Alejandro a Leonardo Jones yn fawr.

“Dw i’n meddwl fod o wedi gweithio’n grêt,” meddai Ynyr Roberts.

“Mae gan Alejandro a Leonardo leisiau … secsi ydi’r gair. Pan maen nhw’n dechrau canu yn Sbaeneg mae o jest yn brilliant.”

Mae Dulog bellach ar werth yn y siopau, ac fe fydd Brigyn yn chwarae gig yng Nghapel Salem yn Nhreganna, Caerdydd, cyn troi eu sylw at daith yn y flwyddyn newydd.