Elin Fflur yw un o artistiaid mwyaf poblogaidd Sain
Bydd gwasanaeth ffrydio newydd yn benodol ar gyfer cerddoriaeth gan labeli Cymru yn cael ei lansio ar Fawrth y 1af.

Am £5 y mis fe fydd cwsmer yn gallu defnyddio Apton i wrando ar gerddoriaeth Cymraeg a Saesneg o Gymru, neu dalu £7.50 am wasanaeth ‘premiwm’ fydd yn caniatáu mynediad at fwy o ganeuon a thraciau unigryw oddi ar hen feinyls.

Eisoes mae caneuon Cymraeg ar gael ar wefannau ffrydio megis Spotify, ond mae’r incwm sy’n deillio o hynny yn isel.

Mae Cwmni Recordiau Sain, sydd wedi datblygu Apton, yn dweud eu bod yn derbyn £0.003 y ffrwd gan Spotify. Fe gafodd dros 1,000,000 o draciau Sain eu ffrydio’r llynedd, ond £3,000 yn unig oedd yr incwm ddaeth i goffrau’r cwmni.

Yn ôl Prif Weithredwr Sain mi fydd Apton yn anelu at dalu 10 ceiniog y ffrwd i labeli yng Nghymru. Mae’n ffyddiog bod yna gynulleidfa sy’n barod i dalu am y gwasanaeth ac yn cyfeirio at y ffaith fod dros filiwn wedi ffrydio traciau Sain mewn blwyddyn.

“Mae’r math o bobol sy’n gwrando ar Gerddoriaeth Byd a cherddoriaeth niche ac ieithoedd lleiafrifol yn tueddu i fod yn bobol mwy egwyddor a phobol mwy triw,” meddai Dafydd Roberts.

“Y teip o bobol fysa yn buddsoddi ac yn tanysgrifio ar gyfer rhywbeth fel [Apton] achos bod nhw’n gwybod bod yr arian yn mynd i gyrraedd y labeli a’r artistiaid. Dyna sydd ddim yn digwydd gyda Spotify ac Apple Music.”

Mae sêr byd eang megis Adele a Taylor Swift wedi gwrthod caniatáu i Spotify ac Apple Music ffrydio eu caneuon oherwydd cwynion nad yw’r safleoedd yn talu digon o freindal.

Cewch fwy am y datblygiad cyffroes yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.