Mae cân gan fand ifanc o Gaerdydd wedi cael ei dewis ar gyfer hysbyseb dillad isaf un o brif siopau’r stryd fawr. 

Bydd ‘Legs’ gan Houdini Dax yn gefndir i hysbyseb dillad isaf sy’n cael eu gwerthu gan Peacocks.

Mae’r band wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni Bounce Publishing, y cwmni a gafodd ei gyd-sefydlu gan y gantores o’r brifddinas, Charlotte Church.

Daw’r gân oddi ar albwm diweddaraf y band, ‘Naughty Nation’, ac mae’r hysbyseb i’w weld ar wefan Peacocks.

Nid dyma’r tro cyntaf i artistiaid o Gymru ymddangos mewn hysbyseb ar gyfer Peacocks.

Y llynedd, y gân ‘Company’ gan Ellie Makes a gafodd ei defnyddio ar gyfer hysbyseb Nadoligaidd y cwmni.

Mae’r band roc Keys hefyd wedi ymddangos yn un o hysbysebion y cwmni.

Ym mis Mawrth, cafodd gwerth £10,000 o gyfarpar y band ei ddwyn o’u fan ac ers hynny, maen nhw wedi cael eu henwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ac mi fydd eu taith o amgylch Prydain yn dod i ben fis nesaf.