Plu
Bydd y triawd teuluol Plu yn lansio eu trydydd albwm heno, casgliad sydd wedi’i greu wrth arbrofi ac ehangu yn ôl y band gwerin.

Mi wnaeth y brawd a dwy chwaer o Fethel fanteisio ar y myrdd o offerynnau oedd ar gael yn Stiwdio Recordio Bryn Derwen ym Methesda fis Mai, gan eu plethu i albwm Tir a Golau a fydd yn cael ei lansio mewn noson gyda Meic Stevens yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon.

Mae haenau o seiniau newydd wedi cael eu hychwanegu i harmoni lleisiol y ddwy chwaer a’r brawd bach.

Yn ôl Marged Rhys, chwaer ganol y band sydd hefyd yn cynnwys Elan a Gwilym Rhys, mae hyn yn rhoi naws “eitha’ spacey, eitha’ arbrofol” i’r cwbl.

“Roedd yna vibraphone trydanol [yn y stiwdio] ac roedd o’n symud olwyn bach oedd yn creu’r vibrato yn y sain. Mae yna lot o vibraphone ar yr albwm, wnaethon ni wir gymryd mantais ac mae o’n rhoi rhyw naws eitha’ spacey, eitha’ arbrofol i’r albwm,” eglura Marged Rhys.

Elan a Marged Rhys sydd wedi llunio geiriau caneuon y casgliad, ac wedyn daw creu’r alawon a’r “ochr gerddorol yn fwy o gydweithio” rhwng y tri.

Taith yr albwm

Ar ôl lansio eu halbwm yng Nghaernarfon, bydd y tri yn mynd ar daith i’w hyrwyddo, gan ymweld â’r llefydd canlynol:

Tachwedd 19 – The Baltic Social, Lerpwl

20 – Fred’s Ale House, Manceinion

21 – Neuadd Llangywer, Y Bala

22- Acapela, Pentyrch, Caerdydd

Rhagfyr 4 – Tŷ Tawe, Abertawe

5 – Gŵyl Fwyd Portmeirion

6 – Palas Print, Caernarfon

Ar gyfer eu gigs yn Lloegr, fe fydd Plu yn cefnogi Carwyn Elis, canwr Colorama.

Maen nhw eisoes wedi chwarae cwpwl o gigs yn Llundain, ac yn edrych ymlaen at gael chwarae yn Lerpwl a Manceinion.