Mae gitâr acwstig John Lennon wedi cael ei werthu am $2.4 miliwn (£1.59 miliwn) mewn ocsiwn yng Nghaliffornia.

Cafodd y gitâr Gibson J-160E ei brynu gan berson anhysbys ddydd Sadwrn.

Dyma’r offeryn a gafodd ei ddefnyddio i gyfansoddi’r clasuron ‘Love Me Do’ ac ‘I Want to Hold Your Hand’, ynghyd ag ystod o ganeuon y Beatles.

Cafodd ei drosglwyddo gan Lennon i George Harrison cyn mynd ar goll yn 1963.

Daeth yr offeryn i’r golwg unwaith eto’r llynedd ymhlith casgliad dyn o’r Unol Daleithiau.