Sgwrs a Chân – Delyth McLean
Un peth doeddech chi’n sicr ddim yn brin ohono yn Eisteddfod Meifod eleni oedd cyfleoedd i wrando ar rhywfaint o gerddoriaeth – boed hynny ar lwyfan y maes, y Tŷ Gwerin a Chaffi Maes B, neu gigiau nos Maes B a Chymdeithas yr Iaith.
Drwy gydol yr wythnos fe fu Golwg360 yn cynnal sesiynau Sgwrs a Chân Golwg360 i chi o’r maes, gan fachu gair â rhai o’r artistiaid a’u clywed nhw’n chwarae ambell diwn fach.
Rydyn ni eisoes wedi bod yn sgwrsio ag Y Cledrau, Bromas, Welsh Whisperer, Jaffro, Al Lewis, Sŵnami ac Aled Rheon, ac mae’n sesiwn olaf ni o’r maes yn dod gan Delyth McLean.
Llewelyn Hopwood fu’n sgwrsio â’r gantores sydd yn rhan o brosiect Gorwelion am ei theithiau diweddar gyda’i band newydd, a chlywed hi a’i chwaer Bethan yn canu fersiwn o ‘Tad a’r Mab’.
Gallwch wylio’r Sgwrs a Chân â Delyth McLean yma:
Gallwch wrando i ragor o gerddoriaeth Delyth McLean a chael rhagor o wybodaeth amdani ar ei thudalennau Soundcloud, Twitter a Facebook.