Osian Huw Williams yn cipio Tlws y Cerddor
Osian Huw Williams sydd wedi ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Meifod eleni.

Roedd yn ddigwyddiad emosiynol gan ei fod yn fab i’r diweddar Derec Williams, un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, a fu farw y llynedd.

Daeth y cerddor, sydd yn adnabyddus fel prif leisydd band Candelas, i’r brig gyda chyfansoddiadau o ganeuon ar gyfer sioe gerdd.

Ac yntau’n gerddor amryddawn ac adnabyddus, mae Osian Rhys Williams yn astudio gradd Meistr mewn cyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd, a gellid dadlau bod cerddoriaeth a chyfansoddi yn ei waed.

Sioe gerdd

Yn wreiddiol o Lanuwchllyn ac yn fab i Derec Williams, un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, dysgodd Osian y gitâr a’r drymiau’n gynnar iawn.  Fe’i magwyd yn sŵn a phrysurdeb ymarferion y cwmni theatr, a chafodd hyn ddylanwad mawr arno drwy’r blynyddoedd.

Dywed ei fod yn amhosibl iddo ddychmygu’i fywyd heb gynhyrchiadau, profiadau a theulu Cwmni Theatr Maldwyn.  Ac mae hon yn berthynas sy’n parhau hyd heddiw, gan ei fod yn rhan bwysig o dîm ‘Gwydion’, yn chwarae’r drymiau yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod nos Wener.

Eleni, cyflwynir Tlws y Cerddor am Sioe Gerdd – un gân corws a dwy gân i unawdwyr ynghyd ag amlinelliad o’r sioe gyfan, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gwreiddiol neu rhai sy’n bodoli eisoes.

Y beirniaid eleni oedd Caryl Parry Jones a Robat Arwyn.  Derbyniwyd naw o geisiadau eleni, gyda gwaith Deg y Cant yn dod i’r brig ac yn derbyn canmoliaeth gan y ddau feirniaid.

Beirniadaeth

Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan dywedodd Caryl Parry Jones: “Syniad hynod o gyffrous ydi hanes Gwion Bach gan Deg y Cant.

“Mae’r cyfansoddwr yn awyddus i’r sioe gael ei chynhyrchu yn arddull “War Horse” gyda phypedau ac animeiddio byw yn ôl ei nodiadau ac mae’r gân “Gwion Bach” yn ddechreuad gwefreiddiol i sioe o’r fath.

“Mae rhywun yn gallu ‘gweld’ y cynhyrchiad ar y gwrandawiad cyntaf. Mae’n llawn motifs cerddorol cyffrous wrth gyflwyno’r stori mewn modd etherial ac yna tyfu a thyfu cyn cyflwyno’r wrach Ceridwen.

“Gyda’r strwythur harmonïol, y defnydd o unsain cryf, yr ystod lleisiol, yr offeryniaeth a’r trefniant offerynol a’r llif alawol yn y rhannau unigol mae’n hawdd tynnu’r gynulleidfa i mewn i’r byd ffantasiol, mytholegol yma.

“Mae’n ffrwydro gwreiddioldeb, yn gyffrous o gerddorol ac yn heintus o ddramatig. Fedrwn ni ddim aros i’w gweld hi. Llongyfarchiadau i  Deg y Cant  am fod yn gwbl gwbl haeddiannol o Dlws y Cerddor a diolch iddo am newid gêr y Sioe Gerdd Gymraeg.”

Rhoddir y Tlws gan Urdd Cerddoriaeth Cymru, a’r wobr ariannol o £750 (Cymdeithas Theatrig Ieuenctid Maldwyn) ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo gyrfa’r cyfansoddwr buddugol.