Bydd y Manic Street Preachers ymhlith y bandiau sy’n cloi gŵyl Latitude yn Swydd Suffolk heddiw.

Mae disgwyl i fwy na 30,000 o bobol fod yn Henham Park ar gyfer y digwyddiad.

Eleni, mae’r Manics yn dathlu ugain mlynedd ers rhyddhau’r albwm ‘Holy Bible’.

Ymhlith yr artistiaid eraill fydd yn ymddangos ar yr amryw lwyfannau heddiw mae Noel Gallagher a’r Boomtown Rats.

Yn ogystal, fe fydd perfformiad gan gôr yr arweinydd Gareth Malone.

Eleni yw degfed blwyddyn yr ŵyl.