Patrobas
Patrobas, grŵp gwerin cyfoes o Ben Llŷn, ydy’r diweddaraf i ryddhau eu sengl gyntaf trwy gynllun Clwb Senglau’r Selar.

Bydd sengl newydd y grŵp o bedwar cerddor, ‘Meddwl ar Goll’, yn cael ei chyhoeddi’n ddigidol ddydd Llun.

Pedwar aelod sydd i Patrobas – Wil Chidley (Gitar, Llais, Banjo, Mandolin) o Dudweiliog, Iestyn Tyne (Ffidil, Mandolin) o Foduan, Carwyn Williams (Gitar fâs) o Forfa Nefyn, a Ronw Roberts (Drymiau) o Roshirwaun.

Mae’r aelodau i gyd yn gyn-ddisgyblion Ysgol Botwnnog, ond bellach yn dilyn cyrsiau addysg bellach yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai.

Ymysg eu dylanwadau mae Patrobas yn rhestru grwpiau fel Old Crow Medicine Show a Mumford and Sons – ac wrth gwrs, y grŵp Cymraeg adnabyddus arall yna o Lŷn, Cowbois Rhos Botwnnog.

Ac mae’r grŵp yn ceisio cyflwyno cerddoriaeth unigryw gyda digon o fynd iddi, gan gyfuno dylanwadau gwerin gyda sŵn roc.

Mae’r grŵp hefyd yn falch o fod yn rhan o gynllun y Clwb Senglau.

“Dw i’n teimlo fod cydweithio gyda’r Selar a [label recordiau] Rasal ar y sengl yma wedi rhoi cyfle i ni recordio mewn sefyllfa broffesiynol na fyddai’n bosib fel arall,” meddai Iestyn Tyne o’r grŵp.

“Allwn ni ond gobeithio rŵan y bydd pobl yn licio’r sŵn ac yn dod nôl am fwy!”

Bydd gig lansio swyddogol y sengl newydd yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon ar nos Sadwrn 11 Gorffennaf, ac fe fydd ar gael i’w lawr lwytho o’r prif siopau cerddoriaeth ddigidol gan gynnwys iTunes, Spotify ac Amazon ddydd Llun.