Castell Aberteifi
Bydd cyngerdd cyntaf Castell Aberteifi ar ei newydd wedd yn cael ei gynnal heno yn ar lawntiau’r castell a fydd, yn ôl y trefnwyr,  “yn noson arbennig i arddangos talent Cymru” gyda rhai o feirdd amlycaf Cymru yn ymddangos.

Mae Ymddiriedolaeth Cadwgan sy’n trefnu’r digwyddiad wedi dweud y bydd Cyngerdd Beirdd a Chantorion  yn “dathlu diwylliant Cymru.”

Bydd beirdd a cherddorion yn cymryd rhan yn y noson, yn cynnwys y mezzo-soprano, Eirlys Myfanwy Davies, a’r bariton, Deiniol Wyn Rees, sy’n ymuno â’r delynores, Claire Jones ar gyfer y cyngerdd.

Bydd enillydd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd a’r bardd enwog o Aberteifi, Ceri Wyn Jones, yn ymuno â’i gyd-feirdd, Tudur Dylan ac Emyr Davies, i roi adloniant i’r gynulleidfa rhwng yr eitemau cerddorol.

‘Nid gig arall mo’r achlysur’

Yn dilyn beirniadaeth chwyrn gan Gyfeillion Rhys ap Gruffudd yn ddiweddar dros roi’r prif le i fand gwerin o Loegr,  Bellowhead, yng nghyngerdd ail-agor Castell Aberteifi ym mis Gorffennaf, mae’r trefnwyr wedi ymateb drwy drefnu cyngerdd yn dathlu diwylliant Cymru.

Fe  lansiodd Hefin Wyn o Gyfeillion Rhys ap Gruffudd ddeiseb yn holi pam fod y band Bellowhead wedi’u gwahodd i’r cyngerdd: “Nid mynegi anniddigrwydd ynghylch grŵp oherwydd iaith eu caneuon a wneir ond ceisio tynnu sylw at arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol yr achlysur penodol.”

Ychwanegodd: “Weithiau mae yna rinwedd yn yr apêl at hanes. Mae yna reswm penodol dros alw 1176 i gof yn y fan hyn. Nid gig arall mo’r achlysur.”