Sam, Angharad a Patrick o fand Calan yn chwarae ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw
Un peth dydych chi’n sicr ddim yn brin ohono ar faes ‘Steddfod yr Urdd yw cerddoriaeth – boed hynny ar y llwyfan, y stondinau, neu allan ar y llwyfan awyr agored.

Drwy gydol yr wythnos hon fe fydd golwg360 yn sgwrsio â rhai o’r artistiaid sydd wedi mentro i’r maes yng Nghaerffili, gan ei holi nhw ynglŷn â’u prosiectau diweddaraf.

Ac fe cyfle hefyd i chi glywed ambell gân gan y cerddorion hefyd, boed hi’n un o’u rhai gwreiddiol nhw neu’n fersiwn newydd o alaw adnabyddus.

Rydyn ni eisoes wedi cael y pleser o gael sgwrs a chân gan Plu a Gildas, ac yn gynharach heddiw fe ddaeth Calan draw i ymuno â ni.

Mae Calan yn fand gwerin cyffrous a ffurfiwyd yn 2005 wedi i bedwar aelod gyfarfod tra ar gwrs cerddoriaeth draddodiadol gyda Trac yn Sweden ddwy flynedd ynghynt.

Heddiw fe ymunodd Patrick Rimes, Sam Humphreys ac Angharad Jenkins â ni ar y maes, gan sgwrsio am eu halbwm newydd Dinas a chwarae fersiwn o gân ‘Nyth y Gôg’ oddi ar eu halbwm Jonah.

Gwyliwch y sgwrs a chân isod:

Gallwch wrando ar ragor o gerddoriaeth Calan, a chael mwy o wybodaeth am eu cynnyrch, ar eu gwefan a’u tudalennau Twitter, Facebook a Soundcloud.