Shan Cothi
Mae manylion ymgais i dorri record byd am y pellter mwyaf rhwng dau berson sy’n canu deuawd wedi cael eu datgelu heddiw.

Ar Ddiwrnod Cerddoriaeth y BBC, bydd y gantores opera Shân Cothi yn cyd-ganu’r emyn Calon Lan gydag Andres Evans – gyda’r naill yng Nghaerdydd a’r llall ym Mhatagonia sy’n, 7000 o filltiroedd ar wahân .

Mae’r ymgais hefyd yn digwydd i nodi 150 mlynedd ers sefydlu cymuned Gymraeg, Y Wladfa, ym Mhatagonia ym 1865.

Yn ymuno gyda Shân Cothi yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghaerdydd ar 5 Mehefin fydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a chôr mawr o aelodau Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Côr CF1, côr staff Radio Cymru a Chorws Only Kids Aloud Canolfan Mileniwm Cymru 2015/16.

Fe fydd Côr Ysgol Gerdd y Gaiman hefyd yn ymuno ag Andres Evans ym Mhatagonia.

Bydd y ddeuawd yn cael ei darlledu’n fyw ar raglen Tudur Owen Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Radio 3 ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel “un o’r prosiectau mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd erioed gan Radio Cymru o ran technoleg a threfniadau.”

‘Dipyn o her’

“O’r hyn yr wyf yn ei ddeall,” meddai Shân Cothi, “mae’n mynd i fod yn dipyn mwy o her nag y byddech yn ei feddwl oherwydd yr oedi sydd ynghlwm â chael y sain at ei gilydd o bendraw’r byd.

“Ond rwy’n croesi fy mysedd y bydd popeth yn iawn ar y diwrnod.”

Mae Andres Evans yn 33 oed ac wedi bod yn canu mewn eisteddfodau ym Mhatagonia am 28 mlynedd. Mae’n cynnal bwyty yn Gaiman o’r enw “Gwalia Lân”, lle mae ei wraig Marina yn coginio.

“Rwy’n dwli ar ganu Cymraeg ac mae hyn yn freuddwyd i mi,” meddai.

‘Beiddgar’

Ychwanegodd Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: “Mae cerddoriaeth yn rhan ganolog o Radio Cymru ac roedden ni’n awyddus i wneud datganiad beiddgar, uchelgeisiol fel rhan o Ddiwrnod Cerddoriaeth y BBC.

“Wel, beth allai fod yn fwy beiddgar na dod â dau ganwr at ei gilydd – gan bontio dros 7,000 milltir – a cherddorfa a phum côr, a darlledu’r cyfan yn fyw ar dair gorsaf radio?”