Fe fydd y diweddar Dr Meredydd Evans yn cael ei anrhydeddu gyda gwo
br Traddodiad Da yng ngwobrau gwerin blynyddol Radio 2 eleni.

Bu farw Merêd fis diwethaf yn 95 oed, ac fe fydd yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad eithriadol i gerddoriaeth werin y Deyrnas Unedig. Fe wnaeth y canwr, yr hanesydd, y darlledwr a’r ymgyrch iaith recordio albwm o ganeuon Cymraeg ar gyfer y label Smithsonian Folkways yn y 1950au.

Roedd yn Bennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru am gyfnod, ac yn groniclwr caneuon Cymraeg traddodiadol.

Bydd prosiect 10 Mewn Bws – pan deithiodd 10 o gerddorion ifanc o gwmpas Cymru’n hyrwyddo canu Cymreig traddodiadol – yn perfformio teyrnged iddo yn ystod y seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar Ebrill 22.

Yusuf, neu Cat Stevens, a Loudon Wainwright III fydd yn derbyn Gwobrau Cyfraniad Oes, a’r ddau yn perfformio ar y noson. Un arall o’r perfformwyr ar y noson fydd y band 9Bach.

Bydd Ewan MacColl yn cael ei dderbyn i’r Oriel Anfarwolion.

Cawr

Dywedodd Golygydd Cerddoriaeth Arbenigol Radio 2, Al Booth: “Mae cael un o gewri’r byd cerddorol o galibr Yusuf yn perfformio yng Ngwobrau Gwerin Radio 2 yn arwydd o’r parch mawr sydd at y digwyddiad.

“Rydw i’n gwybod bod pawb yn y byd gwerin yn edrych ymlaen at noson sy’n addo bod yn un arbennig iawn.”

Cyflwynydd Folk Show Radio 2, Mark Radcliffe a’r gantores Albanaidd, Julie Fowlis fydd yn cyflwyno’r noson, ac fe fydd i’w chlywed yn fyw rhwng 7.30yh a 10yh ar Radio 2 a Radio Wales, ac fe fydd rhaglen arbennig gan Frank Hennessy yn dilyn am 10yh.

Yr enwebiadau’n llawn:

Canwr Gwerin y Flwyddyn – Cara Dillon, Julie Fowlis, Nancy Kerr, Jez Lowe.

Y ddeuawd orau – Josienne Clarke a Ben Walker; O’Hooley a Tidow; Greg Russell a Ciaran Algar; Chris While a Julie Matthews.

Grŵp Gorau – Bellowhead, The Furrow Collective, The Gloaming, The Young ‘Uns.

Albwm Gorau – Fair Warning – The Rails; Nothing Can Bring Back the Hour – Josienne Clarke a Ben Walker; Sweet Visitor – Nancy Kerr; The Moral of the Elephant – Martin ac Eliza Carthy; Tincian – 9Bach.

Gwobr Horizon – Ange Hardy, Maz O’Connor, Stick In the Wheel, The Rails.

Cerddor y Flwyddyn – Martin Green, Will Pound, Sam Sweeney, Kathryn Tickell.

Cân Wreiddiol Orau – Swim To The Star – Peggy Seeger/Calum MacColl (perfformiad Peggy Seeger); The Necklace Of Wrens – Michael Hartnett (perfformiad The Gloaming); The Pitmen Poets – Jez Lowe; The Spider And The Wolf – Paul Simmonds (perfformiad Naomi Bedford).

Trac Traddodiadol Gorau – Bedlam – Stick in the Wheel; Handsome Molly – The Furrow Collective; Manus Mo Rùin – Cruinn; Samhradh Samhradh – The Gloaming.

Gwobr Werin BBC Radio 2 i Bobol Ifanc – Cup O’Joe, Roseanne Reid, Talisk, Wildwood Kin.