Roedd ennill cystadleuaeth Cân i Gymru yn “gwireddu breuddwyd” yn ôl un o gyd-awduron y gân fuddugol.

Ynyr Roberts o Brigyn ysgrifennodd y geiriau, a Steve Balsamo gyfansoddodd y gerddoriaeth, ar gyfer y gân fuddugol Rywun yn Rhywle.

Y gantores o Fochdre, Tesni Jones, oedd yn perfformio’r gân ar y noson.

“Mae breuddwyd wedi dod yn wir. Mae’n deimlad gwych – mae’r  gystadleuaeth yn golygu gymaint i mi,” meddai Ynyr Roberts wrth Golwg360.

“Roedd hi’n brofiad swrrealaidd deffro mewn gwesty yn Aber a gweld Tlws Cân i Gymru wrth fy ochor.”

Roedd wedi cystadlu unwaith o’r blaen, meddai, yn 2007, a chyrraedd y rownd derfynol gyda Steve Balsamo â’r gân ‘Modrwy Werdd’.

“Roedd y panel beirniaid mor gefnogol eleni. Ond y Cymry wnaeth bleidleisio ac rydyn ni wedi cael ymateb anhygoel,” meddai.

Dywedodd fod Cân i Gymru yn “un o’r cystadlaethau mwyaf cyffrous yn y wlad”.

“Rydw i wedi gwirioni â’r gystadleuaeth. Fydda’ i ddim yn swil wrth ddweud erth bobol fy mod i wedi ennil,” meddai.

“Mae’n rhywbeth i fod yn falch ohono, mae’n gystadleuaeth fawreddog, yn rhan o’n hanes ni fel cenedl. Dw i’n siŵr bod y clod yn ysgogi pobl i roi tro arni.”

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio defnyddio arian y wobr ar gyfer “prosiectau cerddorol” gwahanol, yn ogystal a’i wario ar ei wraig, Gwenllïan, sy’n disgwyl babi ymhen ychydig fisoedd.

‘Y gorau’

Dywedodd mai byrdwn y gân Rhywun yn Rhywle oedd  “peidio rhoi gorau i dy freuddwydion, a dal ati”.

“Mae rhywbeth yn dy ddisgwyl di yn y pen draw… Fe ddaeth y geiriau yn reddfol iawn ar ôl i mi glywed y gerddoriaeth”.

Dywedodd y bydd ef a Steve Balsamo yn “parhau i ysgrifennu mwy o ganeuon i Tesni” ac yn “gobeithio recordio cryno ddisg â’r gantores yn y dyfodol”.

“Rydw i’n nabod Tesni ers tro – ro’ ni’n gwybod y byddai ei llais yn gweddu i’r gan. Mae hi’n un o’r cantorion gorau yng Nghymru.”