Huw Stephens, un o drefnwyr Gŵyl Sŵn
Hannah Roberts sy’n dweud bod potensial i adeiladu ar lwyddiannau gwobrwyol diweddar …

Mae’n deg dweud bod Cymru wedi cynhyrchu nifer o grwpiau anhygoel dros y blynyddoedd, ond heddiw hoffwn i edrych ar ddyfodol cerddoriaeth Gymraeg.

Mae’n bwysig i ni edrych ar beth sy’ wedi digwydd yn ddiweddar yn ein hanes cerddorol er mwyn creu rhywbeth newydd, cyffrous a ffres, ond hefyd mae’n bwysig i ni ddefnyddio’r offerynnau hyn i symud ymlaen.

Gwobrau’r gwyliau

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn gyfnod prysur yn y byd cerddoriaeth Gymraeg, gyda Gŵyl Sŵn yn ennill gwobr NME  Gwyl Fechan Orau yr wythnos diwethaf.

Dechreuwyd Gŵyl Sŵn gan y cyflwynydd radio Huw Stephens, a John Rostron sef prif weithredwr Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig.

Oherwydd nad oedd llawer yn digwydd yng Nghaerdydd ar y pryd, nid oedd gwyliau na digwyddiadau mawr yn y ddinas, ac roedd llawer yn teimlo bod rhaid iddynt deithio dros y ffin i ddod o hyd i wyliau cerddoriaeth.

Saith mlynedd yn ddiweddarach mae Sŵn yn tyfu, ac yn bwysicach mae’n annog cerddoriaeth Gymraeg yn ogystal â cherddoriaeth boblogaidd arall.

Nid oedd Sŵn yr unig ŵyl Gymreig i gael ei henwebu chwaith, gyda Gŵyl Rhif 6 a Green Man hefyd yn cael eu cydnabod. Gobeithio fod yr enwebiadau hyn yn dweud rhywbeth am sefyllfa gerddoriaeth fyw yng Nghymru ar hyn o bryd, a’r angen i gael mwy o gyfleoedd i weld cerddoriaeth yn fyw yma.

#cig2014

Mae llawer o ddawn gyda ni yng Nghymru ac mae cystadleuaeth Cân i Gymru newydd ddangos hynny i ni.

Dylem ni fod yn falch iawn bod pobl ifanc yn ysgrifennu ac yn creu cerddoriaeth eu hunain. Yn y diwedd, nhw yw’r dyfodol.

Roedd nifer o wynebau adnabyddus yn y gystadleuaeth eleni gan gynnwys Kizzy Crawford, Gwilym Bowen Rhys (o Bandana) ac Ifan Davies (Sŵnami), ond enillwr y wobr oedd Mirain Evans a gyfansoddodd y gân fuddugol ‘Galw Amdanat Ti’ gyda’i thad. Gallwch weld perfformiad Mirain yma:

Hefyd, fel nodwyd gan Miriam Elin yn ei blog, roedd Gwobrau’r Selar yn llwyfan wych i ddathlu ein hysbeiliau cerddorol unwaith eto. Er bod gwobrau fel hyn yn brin ar gyfer cerddorion Cymraeg, maent yn bwysig ac yn dangos sut mae’r byd cerddoriaeth yn symud yn ei flaen.

Mae llawer o grwpiau anhygoel yn dod yn amlwg ar hyn o bryd yn enwedig o’r gorllewin, gan gynnwys Bromas a Castro. Falle dylem ni ystyried pam fod pethau’n gweithio mor dda ar hyn o bryd.

Mae byd cerddoriaeth wastad yn beiriant gwneud arian, ond mae’n fwy na hynny hefyd. Mae’n beiriant diwylliannol, ac mae’r sin Gymraeg yn bwysig i ni fel Cymry. Ceir syniad am beth sydd yn bwysig i’r Cymry mewn caneuon a sefyllfa gymdeithasol.

Diwedd y gân yw’r geiniog?

Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru o ran denu pobl o’r tu allan. Yn ôl UK Music mae’n debyg fod 6.5miliwn o dwristiaid yn mynd i gig neu ŵyl, gan wario £2.2biliwn yng Nghymru yn y broses.

Mae twristiaeth fel hyn yn creu swyddi hefyd, gyda thwristiaeth gerddorol yn cynhyrchu dros 24,000 o swyddi bob blwyddyn yn y DU. Dyna’r pam mae’n bwysig i ni hybu beth sydd ar gael yng Nghymru.

Felly wrth ennill gwobrau fel rhai’r NME, a chreu gwobrau ein hunain fel Cân i Gymru a Selar, rydym ni’n creu mwy o gyfleoedd i ni werthu ein cerddoriaeth a’n diwylliant dros y ffin ac yn ymhellach.

Heddiw nid oed esgus chwaith – mae bron pawb yn defnyddio pethau fel y rhyngrwyd, rhwydweithio cymdeithasol, a phlatfformau fideo fel YouTube a Vimeo. Mae technoleg yn ein helpu ni i ddod yn fwy amlwg i weddill y byd.

Rydym yn lwcus ar hyn o bryd fod gennym ni lawer o grwpiau gwreiddiol sydd yn cynhyrchu cerddoriaeth ddylai fod ag apêl ehangach. Hoffwn feddwl ei bod yn amser cyffrous yn y byd cerddoriaeth Gymraeg ar hyn o bryd.

Mae diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru yn datblygu a chymryd sylw o faterion masnachol. Mae dylanwad ifanc yn dod yn amlwg ac mae hyn yn bwysig yn niwydiant cerddoriaeth. Os fydd hyn yn parhau, mae’n argoeli’n dda am y dyfodol.

Pwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni wedd newydd ar Cŵl Cymru.

Gallwch ddilyn Hannah ar Twitter ar @Tweet_The_Bleat neu ddarllen mwy ganddi ar ei blog personol: http://jazzysheepbleats.wordpress.com/.