Caryl Parry Jones fydd yn perfformio ar noson agoriadol gwyl gerddorol yn Sir Benfro sy’n canolbwyntio ar ganu a harmoneiddio’n ddigyfeiliant.

Fe fydd y gantores a’r gyfansoddwraig yn canu ar noson agoriadol ‘Gwyl y Llais A Cappella’ yn nhre’ Arberth ar Chwefror 21.

“Mae Caryl yn un o wir sêr Cymru,” meddai datganiad hyrwyddo’r wyl, “ac mae hi’n mynd i fod yn perfformio rhai o’i chlasuron yn ddigyfeiliant gyda’i grwp a cappella, The 4o5s eleni.

“Mae hi’n un o artistiaid Cymraeg gorau ei chenhedlaeth – mae’n gantores ac yn gyfansoddwraig amryddawn. Dim ond merch yn ei harddegau oedd hi pan ddechreuodd wneud argraff gyda’i band, Sidan, ac ers hynny mae wedi cael gyrfa lwyddiannus iawn.”