Bydd cynhadledd ym Mangor yr wythnos nesa’ yn trafod datblygiadau diweddar ym maes cyfraith hawlfraint, ac effaith y gyfraith ar gerddoriaeth mewn ieithoedd lleiafrifol.

Mae’n digwydd yn sgil dyfarniad diweddar y Tribiwnlys Hawlfraint lle benderfynwyd y dylai’r BBC dalu £100,000 y flwyddyn am hawliau i ddarlledu cerddoriaeth Gymraeg ar Radio Cymru. Roedd aelodau’r corf casglu hawlfraint Eos, wedi gobeithio am swm agosach i £1.5 miliwn.

Y prif siaradwyr gwadd yw’r Athro Ian Hargreaves, Athro’r Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Gwion Lewis, bargyfreithiwr gyda Landmark Chambers yn Llundain a bargyfreithiwr Eos yn y tribiwnlys diweddar.

‘Arwain at ymchwil pellach’

Bydd yr Athro Hargreaves yn trafod ‘Gwleidyddiaeth Hawlfraint’ ac yn egluro egwyddorion ei adolygiad o gyfraith Eiddo Deallusol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig; tra bydd Gwion Lewis yn edrych yn ôl ar ddyfarniad y Tribiwnlys a’i arwyddocâd i’r drafodaeth ehangach ar gyfraith hawlfraint a cherddoriaeth mewn ieithoedd lleiafrifol.

“Gobeithiwn y bydd y gynhadledd hynod amserol yma yn ysgogi mwy o ddiddordeb a thrafodaeth ym maes hawlfraint yn gyffredinol yng Nghymru, ac yn arbennig felly o ran hawlfraint yng nghyd-destun ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol,” meddai Carys Aaron, trefnydd y gynhadledd a Darlithydd yn Y Gyfraith ym Mangor.

“Ein gobaith yw y bydd yn arwain at ymchwil pellach a mwy o arbenigedd cynhenid yn y maes yma yng Nghymru.”

Cyfranwyr eraill i’r gynhadledd fydd John Hywel Morris (PRS for Music), Kalev Rattus (EAU Estonia), Mark Hyland (darlithydd yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor sy’n arbenigo ar Gyfraith Eiddo Deallusol a Hawlfraint), a Deian ap Rhisiart a Steffan Thomas (myfyrwyr doethuriaeth sy’n ymchwilio i hawlfraint cerddoriaeth yng Nghymru). Gellir cofrestru, am ddim, drwy e-bostio cynhadleddhawlfraint@bangor.ac.uk