Calan - un o'r grwpiau sydd wedi denu sylw Hannah Roberts
Mae’r sin werin yng Nghymru yn fyw ac yn iach, yn ôl blogwraig cerddoriaeth golwg360 Hannah Roberts …

Yn ddiweddar, es i Glasgow gan fy mod wedi ennill tocynnau i weld cyngerdd Celtic Connections. Mae’r ŵyl hon yn dathlu cerddoriaeth Geltaidd ac, yn y bôn, cerddoriaeth draddodiadol.

Roeddwn i’n lwcus iawn ac yr oeddwn wrth fy modd.  Mae’r ŵyl hon wedi fy ysbarduno ychydig bach i feddwl am gerddoriaeth draddodiadol Gymreig.  Felly, yr wythnos hon, hoffwn i ddathlu ein traddodiadau a’n dyfodol yn y genre hwn.

Gwlad y Gân

Rydym ni’n lwcus yng Nghymru, nid ydyn nhw’n ein galw ni’n ‘Gwlad y Gân’ heb reswm!  Rydym ni dathlu’n cerddoriaeth neu ddefnyddio ein cerddoriaeth er mwyn dathlu sawl gwaith yn ystod y flwyddyn;  mae gennym ni sawl eisteddfod – y Genedlaethol,  yr Urdd a’r Rhyngwladol heb anghofio am eisteddfodau lleol sef llwyfan ffantastig i ddangos ein hysbeiliau.

Mae crefft arbennig gennym ni hefyd sef cerdd dant gyda’r delyn a’r canwr yn canu gyda’i gilydd yn wrthbwynt.  Allwn ni ddim anghofio am dwmpathau a noson lawen chwaith – mae’r digwyddiadau hyn yn llefydd gwych i glywed cerddoriaeth draddodiadol Gymreig, ac os nad ydych chi’n cael cyfle i fynd gallech wylio rhaglen Noson Lawen ar S4C.

Yn draddodiadol, mae pobl yn dysgu cerddoriaeth fel hyn gan rywun arall, hynny yw, mae traddodiadau yn cael eu pasio ymlaen i genhedlaeth newydd, iau.  Wrth gwrs, gallem ni fod mewn perygl os byddai rhywun yn peidio â rhannu eu gwybodaeth, ond yn ffodus, mae sawl cymdeithas wedi ymdrin â chadw a chasglu cerddoriaeth Gymreig ar ein cyfer.

Cymdeithas Alawon Gwerin a sefydlwyd yn 1906 yw un o’r cymdeithasau hynny, ac mae gan Brifysgol Bangor hefyd Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Gymreig sydd yn helpu i gadw cerddoriaeth draddodiadol yn fyw.

Mae gan y gerddoriaeth hon fedr i swnio’n wahanol bob tro mae rhywun yn gwrando arni. Gan fod neb yn ei hysgrifennu (ac eithrio pwrpas ei chadw’n fyw), gellir ychwanegu ati neu drin y gerddoriaeth ychydig bach, er enghraifft gydag addurniad, cywair ac yn y blaen.

Mae’n debyg fod agwedd gwahanol at gerddoriaeth draddodiadol, wedi’r cyfan mae’n perthyn i’r werin, felly nid oes ots os yw hi wedi cael ei chanu o’r blaen.

Grwpiau gwerin yn gwneud argraff

Wrth imi drafod  y math yma o gerddoriaeth hoffwn i dynnu eich sylw yn gyflym at sawl grŵp, yn gyntaf Calan. Mae Calan yn ifanc, ond maent yn dangos inni fod y genre hwn yn apelio at bobl ifanc.

Diolch i gymorth S4C maen nhw wedi datblygu delwedd ffres a chyfoes. Sylweddolais  yn yr ŵyl Celtic Connections fod llawer o bobl ifanc yn perfformio, ac ni feddylir am gerddoriaeth fel hon ar gyfer y to hŷn yn unig rhagor. Yn amlwg mae’r traddodiad yn nwylo cenhedlaeth newydd.

Felly, symudaf ymlaen at Jamie Smith’s Mabon, sy’n ennill enw iddo’i hun yn y byd cerddoriaeth draddodiadol. Ni all geiriau wneud cyfiawnder i’w gerddoriaeth ond mae e’n cyfansoddi cerddoriaeth draddodiadol wreiddiol. Cewch gipolwg yma:

Mae gan Gymru Y Glerorfa sef cerddorfa werin gyntaf Cymru gyda 30% o’u haelodau o dan 30 oed.  Roeddwn i’n lwcus i’w gweld yn fyw tua thair blynedd yn ôl. Dyna’r tro cyntaf imi weld pibgorn hefyd.

Mae pibgorn yn gwneud sŵn anhygoel ac wedi perthyn i Gymru ers dros fil o flynyddoedd, gyda sôn am yr offeryn hyd yn oed yng Nghyfraith Hywel Dda.  Mae’n debyg fod ei boblogrwydd yn tyfu dros Ewrop ac America.  Clywch enghraifft o’r pibgorn yma yn Y Glerorfa:

Mae cerddoriaeth draddodiadol yn cynhyrchu sŵn gwahanol a cheir offerynnau sydd bron a bod yn egsotig o’i gymharu â cherddoriaeth boblogaidd.  Ble arall fyddwch chi’n dod o hyd i bibgyrn, ffidlau, telynau, acordionau neu fandolinau yn gweithio gyda’i gilydd i greu sŵn anhygoel?!

Rydym ni’n gwneud gwaith da o gadw, a hyd yn oed ychwanegu at, ein cerddoriaeth draddodiadol.  Weithiau, rydym yn ei hadnewyddu neu ychwanegu bywiogrwydd cyfoes ati.  Un peth sy’n sicr, mae cerddoriaeth draddodiadol yn perthyn i’r werin ac nid oes dyddiad terfynol arnyn nhw.

Gallwch ddilyn Hannah ar Twitter ar @Tweet_The_Bleat neu ddarllen mwy ganddi ar ei blog personol: http://jazzysheepbleats.wordpress.com/