Anthony Hopkins
Fe fydd yr actor enwog, Syr Anthony Hopkins yn dychwelyd i Gymru yn ddiweddarach eleni, cyhoeddwyd heddiw.

Fe fydd yr actor 73 blwydd oed sy’n fwyaf adnabyddus am ei rôl yn ffilm Silence Of The Lambs yn dychwelyd yn rhinwedd ei waith fel cyfansoddwr.

Bydd yn ymddangos yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, yn ystod yr haf.

Fe fydd Anthony Hopkins yn cyflwyno perfformiadau sawl sgôr cerddorol gwreiddiol o’i ffilmiau ei hun gan gynnwys August and Slipstream.

Yn ystod y cyngherddau, bydd yn siarad am y gerddoriaeth a’r broses greadigol gyda’r cynhyrchydd Tommy Pearson.

Fe fydd y gerddorfa, o dan arweiniad Michael Seal hefyd yn chwarae cerddoriaeth o ffilmiau mwyaf enwog yr actor gan gynnwys Shadowlands, Remains of the Day a Silence of the Lambs.

Fe fydd tocynnau ar werth yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd o ddydd Gwener ymlaen.