Dyma argraffiadau cychwynnol Non Tudur o’r gynhadledd Cerddoriaeth Byd, Womex 2013 yn y Motorpoint Arena, Caerdydd …

Lle difyr yw Womex. Lle difyr tu hwnt.

Peth rhyfedd yw’r busnes ‘gwerin’ neu ‘draddodiadol’ yma – gwreiddyn bob sgwrs yw’r wlad a’i thraddodiadau,  ond buan y byddwch yn troi at ddiwylliant cyfoes y wlad honno, ei phobol ifanc a’r dylanwadau allanol sydd arnyn nhw, a pha fath o ddelwedd sydd gan y wlad a llwyddiant ei cherddorion dramor ac yn eu gwlad ei hunain.

Mae bob un ohonon nhw’n rhannu rhywbeth â’r Cymry – gan y bydd pawb yn siarad gyda balchder am unrhyw artist sydd wedi ‘ei gwneud hi’ dramor. Dywedodd un ferch o wlad y Basg wrtha i yn syth bod un o’u hartistiaid wedi perfformio gyda Madonna. Ond nid hynny yw’r peth difyrra’, ond eu hafiaith am gerddoriaeth a’u diwylliannau yn gyffredinol.

Mae yna rai sy’n fwy profiadol na’i gilydd am y busnes cynadledda rhyngwladol yma. Mae rhai yn hen lawiau ar Womex, yn sôn am eu rhaglenni dyddiol, yn aml yn drefnwyr gwyliau neu reolwyr labeli. Mae gan bawb gerdyn busnes.

Un o’r rhai cynta’ i mi eu cyfweld ar gyfer cylchgrawn Golwg oedd cyfarwyddwr cynhadledd gerddorol o Gatalunya, Mercat de Música, sy’n rhedeg ers chwarter canrif. Cerddor profiadol sy’n hen law ar drafod cerddoriaeth Catalunya, a’r her sy’n wynebu grwpiau sy’n canu yn eu mamiaith yn hytrach na iaith y wlad fawr drws nesaf, a’r drysau sy’n agored iddyn nhw trwy’r byd.

Roedd ganddo ffordd wych o hybu diwylliant eu gwlad a rhywbeth y dylai’r Cymry fod yn ei wneud yn sicr – dau CD gyda chelfwaith cyfoes, trawiadol – y naill yn dweud WORLD MUSIC from CATALONIA 2013, a’r llall yn dweud POP ROCK from CATALONIA 2013. Mae Sain i’w canmol ar eu holl gasgliadau gwych o fiwsig traddodiadol a chyfoes Cymru – ond mae hyn yn syniad da ac eglur i’r rheiny a fydd yn mynd â Chymru i’r Womex nesaf. Ar yr un World Music roedd y rhan fwya’ o artistiaid Catalaneg, wrth gwrs.

Siaradais gyda rheolwyr proffesiynol o bob cwr o’r byd – un fenyw o  India (o gwmni Earth Sync), dyn a oedd yn hybu cerddoriaeth Prince Edward Island yng Nghanada a dynes smart o Ffrainc (o ŵyl Nantes), a’u Saesneg yn ddilychwin hollol. Sgwrs ddifyr iawn wedyn gyda merch ifanc o’r Ffindir a oedd yn mentro i Womex am y tro cyntaf – myfyrwraig oedd hi, yn astudio treftadaeth ddiwylliannol ond yn rheoli dau grŵp offerynnol cyfoes, ac yn llawn brwdfrydedd dros grwpiau fel wyliau a cherddoriaeth ei gwlad.

Yr un difyrra’ ei sgwrs efallai oedd cerddor o Tanzania – Mzungu Kichaa. Espen Sorensen yw ei enw iawn – cafodd ei eni yn Nenmarc  ond ei fagu yn Nhansanïa gan rieni a oedd yn gweithio yn y maes Datblygu Rhyngwladol. Dysgodd Swahili ac ar ôl ceisio gwneud pob math o gerddoriaeth gorllewinol trodd yn ôl i’w iaith fabwysiedig, Swahili ac mae yn cael bri ar ganu yn y traddodiad hwnnw. A’i gyfaill, Journey Ramadhani, hefyd o Nhansanïa a oedd wrth ei fodd â fersiwn Côr Meibion Treorci o’r gân Zulu ‘Senzenina’ yn y gyngerdd agoriadol. “The important thing alwas is that music can bring us together,” meddai wrtha i. “Now we have something that connects us.”

A dyn parod iawn ei farn o Fudapest, a fu’n rhannol gyfrifol am drefnu noson agoriadol Hwngari. Bu’n byw yn Aberystwyth am ddeng mlynedd, ond gorfod gadael Cymru, meddai, gan na lwyddodd i gael swydd yma. Roedd yn gwybod un gân Gymraeg ar ei go’ ond nid oedd yn medru’r Gymraeg. Sut yr aeth i fod yn arbenigwr ar gerddoriaeth Hwngari ymhen ychydig flynyddoedd, dyn yn unig a ŵyr.

Lle busnes yw Womex, ond ie, un o’r llefydd difyrraf yn y byd mae’n siŵr i rywun sydd â chariad at gerddoriaeth ac at ddiwylliannau ac ieithoedd cynhenid. Ac maen nhw i gyd wedi dod i Gymru y tro yma. Mae’n lle i bobol wneud cysylltiadau ag eraill sy’n gweithio yn yr un diwydiant â nhw, i erfyn am gig mewn gŵyl dramor i’w hartistiaid, a lle i ysgwyd llaw tra’n estyn CD gyda’r llaw arall.