Tecwyn Ifan - un o'r cantorion
Am y tro cynta’ fe fydd prynhawn cyfan o ganu gwerin ar brif lwyfan perfformio awyr agored yr Eisteddfod.

Mewn partneriaeth â’r corff canu gwerin Trac a gŵyl gerddoriaeth Womex, fe fydd y prynhawn cyfan yn cael ei roi at gerddoriaeth draddodiadol.

“Roedden ni’n teimlo ers tro ein bod ni eisiau gwneud mwy tros ganu gwerin,” meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts. “Os na all yr Eisteddfod roi lle i gerddoriaeth draddodiadol Cymru, mae yna rywbeth mawr o’i le.”

Cwyno

Ers rhai blynyddoedd, mae cefnogwyr canu gwerin wedi bod yn cwyno nad oes digon o sylw i’w crefft ar y cyfryngau nac yn yr Eisteddfod.

Fe fydd y sesiynau’n dechrau am dri ac yn parhau tan ar ôl naw y nos, gyda pherfformiadau gan rai fel Tecwyn Ifan, Georgia Ruth, Gwyneth Glyn, Cowbois Rhos Botwnnog a Calan.