Am flynyddoedd lawer roedd Jacqueline Janine Jones yn ddarlunydd masnachol, yn ennill ei bara menyn yn gwneud darluniau manwl ar gais pobol eraill.

Ond cafodd lond bol ar roi mynegiant artistig i weledigaeth a dymuniadau pobol eraill, a tua deng mlynedd yn ôl, ar ôl symud i’r Rhondda i fyw, penderfynodd ddilyn ei chalon a gwneud gwaith celf o’i phen a’i phastwn ei hun.

“Mae e’n hollol wahanol i wneud darlunio,” meddai. “Mae’r gwaith yna’n golygu gweithio’n fanwl iawn, ac ro’n i’n moyn gwneud rhywbeth hollol wahanol.”

Celf yw’r “roc a rôl newydd” yn nhyb yr artist. “Mae lot o sêr pop nawr yn troi at gelf. Dyma’r unig ffurf celf weledol sy’n rhydd nawr, am fod cerddoriaeth wedi mynd yn rhy fasnachol. Ry’ch chi’n gallu gwneud datganiad mewn celf, a does dim label recordiau yn dweud wrthych chi i wneud hyn a hyn.”

Mae Jacqueline Janine Jones am dorri’n rhydd o’r tirluniau traddodiadol sydd mor gyffredin yng Nghymru.

“Dw i’n meddwl bod pobol eisiau celf fwy gwreiddiol. Maen nhw’n ffed-yp o’r tirluniau! Falle bod rhai pobol yn hoff iawn o fy ngwaith i, falle bydd pobol eraill ddim.”

• Jacqueline Janine Jones, Oriel Ffin y Parc, Llanrwst, tan Chwefror 27

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 17 Chwefror