Eisteddfod Glyn Ebwy 2010
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn galw ar artistiaid a gwneuthurwyr o bob cwr o Gymru i anfon eu cais atyn nhw cyn diwedd yr wythnos.

14 Chwefror yw dyddiad cau ceisiadau ar gyfer Arddangosfa Agored Y Lle Celf eleni.

“Mae’r dathliad hwn o ddyfeisgarwch a rhagoriaeth yn cynnig golwg eang ar y gweithgaredd creadigol sydd ohoni yng Nghymru heddiw,” meddai Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod, Robyn Tomos.

“Yn ogystal â chynnig llwyfan genedlaethol i artistiaid ifainc, mae’n hyrwyddo artistiaid sefydledig hefyd. Yn ogystal, mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol ymrwymiad i annog gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o’r celfyddydau gweledol yng Nghymru.”

Detholir Arddangosfa Agored Wrecsam a’r Fro 2011 gan y curadur Alessandro Vincentelli (Canolfan Gelfyddydau Gyfoes y BALTIC, Gateshead) a’r artistiaid Steffan Jones Hughes a Lois Williams (enillydd Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod 1999).

Arddangosfa Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o binaclau’r celfyddydau cain a chymhwysol yng Nghymru, ac mae’r arddangosfa’n denu hyd at 40,000 o ymwelwyr.

Am y tro cyntaf yn hanes Eisteddfodau Wrecsam, dyfernir y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, y Fedal Aur and Grefft a Dylunio a’r Fedal Aur am Bensaernїaeth ynghyd â’r Ysgoloriaeth Artist Ifanc a’r Ysgoloriaeth Bensaernїaeth am ragoriaeth, ymroddiad a gwreiddioldeb

Mae’r arddangosfa yn agored i’r rhai a aned yng Nghymru, neu ag iddynt rieni o Gymru, neu i’r rhai a fu’n byw neu’n gweithio yng Nghymru am y tair blynedd cyn 30 Gorffennaf 2011, neu unrhyw berson sy’n siarad neu ysgrifennu Cymraeg.

Mae manylion pellach ar gael oddi wrth Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol, Swyddfa’r Eisteddfod, 40 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU. Ffôn 0845 4090 300.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro ar dir Fferm Bers Isaf oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam, o 30 Gorffennaf – 6 Awst.