Mae arddangosfa newydd o ffotograffau o’r 1930au a’r 1940au yn yr Almaen yng nghyfnod y Natsïaid wedi agor yn Oriel yr Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r arddangosfa yn dangos gwaith tri o ffotograffwyr cymharol anadnabyddus o’r Almaen yn yr ugeinfed ganrif – Hans Saebens (1895-1969), Hans Retzlaff (1902-1965) ac Erich Retzlaff (1899-1993).

Cafodd eu gwaith ei greu yn ystod y 1930au a’r 1940au fel rhan o broses “fframio gweledol” eang ei dosbarthiad, oedd yn canolbwyntiol ar werinwyr yr Almaen a’u “Heimat”, sef eu mamwlad.

Mae’r arddangosfa A Radical Tradition – Eine Radikale Tradition i’w gweld yn Oriel yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr, Aberystwyth ers ddydd Llun (Mawrth 2) tan y cyntaf o Fai eleni.

Mae’r Oriel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10 y bore tan 5 yr hwyr (ar gau 10-14 Ebrill) ac mae mynediad am ddim.