Blancedi argyfwng ffoil gyda phatrymau carthenni traddodiadol Cymreig sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Roedd y detholwyr yn unfryd y dylid dyfarnu’r anrhydedd ynghyd â’r wobr ariannol lawn o £5,000 i Daniel Trivedy a gynigodd ei waith i’w ystyried ar gyfer yr Arddangosfa Agored am y tro cyntaf erioed eleni.

Yn ôl yr artist, mae’r gwaith yn ymateb i ddatganiad ‘cenedl noddfa’ Llywodraeth Cymru ynglŷn â helpu  ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

“Mae’r gwaith yn dod â dwy elfen weledol a’u chydgysylltiadau at ei gilydd,” meddai.

“Mae’r elfen gyntaf yn cymryd patrwm nodedig carthenni Cymreig. Mae gan blancedi a’u patrymau gyfeiriadaeth luosog – yn gyffredinol: hiraeth, cynhesrwydd, plentyndod, traddodiad, cof, cysur ac etifeddiaeth.

“A’r ail elfen yw’r blanced argyfwng aur. Mewn gwrthgyferbyniad â’r elfen gyntaf mae’r blanced argyfwng wedi’i fasgynhyrchu, yn rhad ac at ddefnydd, wedi’i weld mewn ffotograffiaeth ddogfennol yn ymwneud â gwersylloedd ffoaduriaid neu fudwyr yn cyrraedd glannau Ewrop ac efallai, mae’n cyfeirio at boen a dioddefaint a rhyw fan arall ac ‘eraill’.”

Yr artist

Wedi cyfnod yn gweithio ym myd marchnata, newidiodd Daniel Trivedy gwys ei yrfa a throi at gelfyddyd gain.

Bellach mae’r artist, sydd wedi ymgartrefu ger Castell-nedd, yn ddarlithydd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin.

Mae ‘Carthenni Argyfwng’ Daniel Trivedy i’w gweld yn Arddangosfa Agored Y Lle Celf tan ddydd Sadwrn nesaf (Awst 10).

Ffoaduriaid