Fe gafodd Kent Street yn Belffast ei phlastro â chelf graffiti dros Ŵyl y Banc – ac ymhlith y gwaith eleni y mae murlun er cof am y newyddiadurwraig, Lyra McKee.

Fe gafodd y ferch 24 oed ei saethu’n farw gan y New IRA yn ystod reiat yn ninas Derry y mis diwethaf.

Mae llun o Lyra McKee wedi’i gynnwys ochr yn ochr â geiriau o lythyr pwerus a ysgrifennwyd ganddi pan oedd hi’n ddim ond 14 oed.

Mae’r llythyr, sydd wedi’i gyhoeddi ledled y byd ers ei marwolaeth, yn trafod ei thrafferthion yn tyfu i fyny fel merch ifanc hoyw yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r artist, Emma Blake, yn dweud iddi gael ei chyffwrdd gymaint gan farwolaeth Lyra McKee nes bod yn rhaid talu teyrnged iddi ar ffurf murlun.