Mae heddlu yn nhalaith Fflorida yn yr Unol Daleithiau yn ceisio dod o hyd i’r sawl a chwistrellodd y slogan ‘#MeToo’ ar goes cerflun sy’n dangos morwr a nyrs deintydd yn cusanu ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Fe ddaeth swyddogion ar draws y graffiti mewn coch ar goes chwith y wraig sy’n rhan o waith celf ‘Unconditional Surrender’ yn Sarasota.

Mae’r paent yn gorchuddio coes y nyrs ar ei hyd.

Dyw’r heddlu hyd yma ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i’r paent nac i’r chwistrell a gafodd eu defnyddio.

Mae’r awdurdodau yn dweud bod difrod gwerth $1,000 wedi’i achosi i’r gwaith celf – a bod y drosedd wedi’i chyflawni rywbryd yn ystod pnawn neu nos Lun yr wythnos hon (Chwefror 18).

Bu farw George Mendonsa, y morwr a gusanodd y nyrs, Greta Zimmer Friedman, ddydd Sul (Chwefror 17), yn 95 oed.