Mae Amgueddfa Van Gogh yn Amsterdam yn dweud bod un o ddarluniau enwocaf yr artist o’r Iseldiroedd mewn cyflwr “rhy fregus” i deithio i nunlle ar fenthyg.

Yn ôl cyfarwyddwr yr amgueddfa, Axel Rueger, mae canlyniad yr ymchwil a gafodd ei gynnal yn ystod gwaith cynnal a chadw yn golygu na fydd ‘Sunflowers’ yn cael ei  fenthyg i amgueddfeydd eraill byth eto.

Yn hytrach, fe fyddai’n cael ei gadw’n ddiogel mewn arddangosfa yn yr amgueddfa er mwyn i ymwelwyr ei weld.

Mae’r fersiwn hwn o flodau’r haul yn un o bum darlun  tebyg a gafodd ei arlunio gan Vincent Van Gogh (1853-1890).