Ni fydd gwaith Banksy yn “ei ddinistrio ei hun” nac yn “ffrwydro” yn ystod ocsiwn nesaf yr artist, meddai arwerthwyr.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gafodd ei ddarlun ‘Girl With a Baloon’ ei rwygo’n rhubanau gan beiriant yr oedd yr artist ei hun wedi’i blannu yn y ffrâm ei hun wneud ei waith.

Fe bostiodd yr artist fideo o’r foment ar wefan gymdeithasol Instagram gyda’r geiriau, “Mynd, mynd, wedi mynd…” ar ôl i’w ddarlun gael ei werthu am filiwn o bunnoedd mewn ocsiwn yn Sotheby’s, Llundain.

Nawr, mae arwerthwyr Julian’s Auctions yn addo y bydd y darlun ‘Slave Labour’, sydd werth £600,000, yn “hollol saff” wrth edrych ymlaen at yr ocsiwn yn Los Angeles ym mis Tachwedd.

Mae’r darlun yn cynnwys bachgen ifanc yn creu baneri Jac yr Undeb gyda pheiriant gwnïo. Fe ymddangosod am y tro cyntaf fel graffiti ar wal siop Poundland yn ardal Wood Green, Llundain.

Mi fydd y darn yn cael ei werthu ochr yn ochr â gweithiau eraill gan Banksy yn cynnwys ‘Crazy Hose’, ‘TV Girl’, ac ‘Applause’.