Mae cartref Hedd Wyn, hyb cymunedol, adnewyddiad i oriel gelf, prosiect cadwraeth a hosbis yn y ras i ennill gwobr fawr am bensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Heddiw cyhoeddwyd bod siop a chaffi Cletwr ger Machynlleth, Vila Mir yn y Fenni, Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd ac Uned Cleifion Mewnol Hosbis Dewi Sant, Casnewydd ynddi ar gyfer ennill y Fedal Aur am Bensaernïaeth.
Mae’r wobr yn cydnabod pwysigrwydd pensaernïaeth yn niwylliant y genedl ac yn cydnabod y penseiri hynny sy’n cyrraedd y safonau dylunio uchaf. Fe’i dyfernir i adeiladau a gwblhawyd rhwng 1 Ionawr 2015 a 1 Mawrth 2018.
Y rhestr fer yn llawn
Cletwr, Tre’r ddôl – cynllun George + Tomos, Machynlleth
Vila Mir, Y Fenni – dyluniwyd gan Loyn + Co., Penarth
Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe – cynllun Powell Dobson, Caerdydd
Yr Ysgwrn, Trawsfynydd – gwaith gan Purcell, Conwy
Uned Cleifion Mewnol Hosbis Dewi Sant, Casnewydd – cynlluniau gan KKE Architects, Caerwrangon
Enillwyr cyson
Mae dau o’r prosiectau ar y rhestr fer, ynghyd â’u dylunwyr, wedi ennill nifer o wobrau eisoes. Dyfarnwyd Adeilad y Flwyddyn 2018 Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW) i’r Ysgwrn ac enillodd Wobr Gadwraeth y Gymdeithas i’r penseiri Purcell a’r cleient Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Yn ogystal, dyfarnwyd gwobr Pensaer Prosiect y Flwyddyn 2018 i bensaer Purcell, Elgan Jones. Enwyd Emma Saysell, Prif Weithredwr Gofal Hosbis Dewi Sant yn Cleient y Flwyddyn 2018 y Gymdeithas.