Efa Lois Thomas o Aberystwyth yw enillydd Ysgoloriaeth Celf, Dylunio a Thechnoleg, Eisteddfod yr Urdd am eleni.

Maer ysgoloriaeth, sy’n werth £2,000, yn cael ei rhoi am y casgliad o waith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18 a 25 oed.

Fe ddaeth Efa Lois Thomas yn fuddugol o blith pum ymgeisydd, ac mae yn ôl un o’r beirniaid, Ruth Shelley, mae’r buddugwr yn “feistr ar ei chrefft”.

Cyfuno arlunio a phensaernïaeth

Mae Efa Lois Thomas yn arlunydd sydd â gradd mewn pensaernïaeth o Brifysgol Lerpwl, ac yno y mae hi ers mis Medi y llynedd lle mae’n astudio ar gyfer gradd feistr yn y pwnc.

Ar y cyd â’r bardd, Morgan Owen, hi yw sylfaenydd y brosiect Rhithganfyddiad, ac mae hefyd yn gyfrifol am y blog ‘Prosiect Drudwen’.

“Bydd yr ysgoloriaeth hon yn gyfle i mi gyfuno fy ngwaith arlunio a fy ngwaith pensaernïol, ac yn gyfle i wneud pensaernïaeth yn hygyrch a dealladwy i bobol ifanc,” meddai.