Dylunydd ifanc o Abertawe yw enillydd y Fedal Gelf yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018.

Daeth Luke MacBride yn fuddugol mewn cystadleuaeth a oedd yn cynnwys deuddeg ymgeisydd, ac mae’r gwaith buddugol wedi’i ganmol gan y beirniaid fel un “cain a chyfoes”.

Fe enillodd ei fedal am ei waith, ‘Ymchwiliad i Gysyniad Symudiad mewn Celf’, ac mae wedi creu dilledyn dawns, ynghyd â chyflwyno portffolio ymchwil, lluniau a fideo byr am y prosiect.

“Drwy’r ymchwiliad hwn, rwy’ i wedi dysgu sut y mae fy syniadau creadigol yn cael eu trawsnewid, ac rwy’ i wedi ceisio eu cyflwyno mewn cynnyrch uchel ei safon ond sydd hefyd yn hanfodol gymhleth,” meddai Luke MacBride.

“Rwyf wedi darganfod drwy fy ymchwiliad y gellir ystyried y cysyniad o symudiad mewn nifer o ffyrdd, mae ganddo’r gallu i wella’r gwaith, boed drwy symudiad llythyrennol neu symudiad sydd ymhlyg yn y gwaith… neu, yn wir, ddealltwriaeth o symudiad y wisg i gyd.”