Mae lluniau un o gyn-weithwyr Amgueddfa Llechi Cymru, a gafodd  eu tynnu dros gyfnod o 20 mlynedd wrth iddo deithio i’w gwaith, yn cael eu harddangos yn yr amgueddfa yn Llanberis

Cafodd y ffotograffau eu tynnu ar gamera ffilm Canon rhwng mis Gorffennaf 1989 a Medi 2009 gan O. Tudur Jones, cyn-swyddog arddangosfeydd Amgueddfa Llechi Cymru.

Mae’r 6,000 o luniau yn dogfennu taith Tudur Jones i’w waith bob bore o Lanrwst yn Nyffryn Conwy i Lanberis ar odre’r Wyddfa.

Mae ganddo rai lluniau o’r daith yn ôl hefyd, a hynny  pan nad oedd glaw neu eira yn ei orfodi i fynd yn ôl ar hyd yr A470.

“Prydferthwch bendigedig”

Yn ôl y ffotograffydd, roedd yn ystyried ei hun yn “lwcus” o gael cyflawni’r daith bob dydd, gan weld yr “harddwch naturiol” o’i gwmpas.

“Fe’m syfrdanwyd droeon wrth sylwi fod pob dydd yn wahanol ar y daith,” meddai,  a fyddwn i byth yn blino ar weld y prydferthwch bendigedig.”

Ond er gwaetha’r olygfa, mae’n cyfadde’ nad oedd y daith yn fêl i gyd ar rai adegau o’r flwyddyn.

“Mi roedd yna hefyd ochr arall i’r daith nad oeddwn yn rhy hoff ohoni, a hynny pan ddeuai’r nosweithiau hydrefol, a’r curlaw a’r gwyntoedd yn beichio wylo arna’ i ar fy nhaith yn ôl i Lanrwst wedi diwrnod hir.”

Mi fydd yr arddangosfa, DROS Y PAS, i’w gweld yn Amgueddfa Llechi Cymru tan Fehefin 22.