Dyfarnwyd Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i Bennaeth Crochenwaith Coleg Sir Gâr, Caerfyrddin.

Fel un sydd wedi arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn aml dros y blynyddoedd diwethaf, gwaith Peter Bodenham enillodd y Fedal eleni.

“Dylai bod modd gweld ei waith yn amlach ac mae’n haeddu cynulleidfa llawer ehangach,” meddai un o’r detholwyr, Steffan Jones-Hughes. “Wrth wraidd ei waith y mae proses gwneud – mae’n ymateb i ddeunyddiau. Ac mae ei waith yn denu sylw mewn cyd-destun crefft oherwydd ei fod yn gweithio’n feirniadol.”

Hyfforddwyd Peter Bodenham yn wreiddiol mewn gwaith cerameg yn Camberwell yn y 1980au, yna symudodd i ymarfer seiliedig ar gelf gain yn dilyn ennill MA mewn Celfyddyd Gain ac Astudiaethau Beirniadol yn UWIC, Caerdydd.

Mae ei waith, sy’n dwyn y teitl ‘Beth ydyn ni’n gartrefol ag e’, yn ymwneud â chreu crochenwaith at iws yn y cartref, ar yr un llaw, tra ar y llaw arall, mae’n ymhel â chreu gwaith cerameg, sy’n gwneud i bobol feddwl.

“Mae traddodiad hir mewn gwneud platiau cerameg gyda thestun a delweddau ar y wyneb, at ddibenion addurniadol ac ymarferol, i’w defnyddio yn y cartref,” meddai.

“Mae gen i ddiddordeb mewn codi cwestiynau gan ddefnyddio delweddau a geiriau ar wyneb fy ngwaith cerameg. Mae’r platiau yn yr Eisteddfod yn holi beth sy’n gwneud i ni deimlo’n gartrefol neu beth ydyn ni’n gartrefol ag e?”

Yn ogystal â’r Fedal Aur, dyfarnwyd £2,000 i Peter Bodenham a £1,500 yr un i Carys Davies a Sean Vicary am waith porslen ac animeiddio.