Suzie Horan
Mae gof arian o Gaerdydd a greodd goron Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy’r llynedd wedi ennill gwobr am ei gwaith.

Enillodd Suzie Horan wobr am ei syniadau yn Wythnos Arian Prydain 2011, yng Ngaleri Pangolin, Llundain, ddechrau’r wythnos.

Nod yr ŵyl, sydd yn ei phedwaredd blwyddyn bellach, yw dathlu gwaith gofaint arian cyfoes ym Mhrydain heddiw.

Roedd Suzie Horan hefyd yn arddangos un o’i gweithiau yno, sef powlen arian yr oedd wedi’i chreu mewn cydweithrediad â’r artist gwydr Ruth Shelley.

Sgwrsio

“Roeddwn i yn y galeri yn Llundain yn sgwrsio gyda gwahanol bobol ac mae’n rhaid fy mod i wedi cael fy nghyfweld yn anffurfiol am fy syniadau ar gyfer darnau. Doedd gen i ddim clem ar y pryd,” meddai Suzie Horan wrth Golwg360.

Fe gafodd y wobr ei chyflwyno iddi gan yr Arglwydd Cunliffe, un o noddwyr Wythnos Arian Prydain.

“Roeddwn i wedi gwirioni o ddeall fy mod i wedi ennill,” meddai.

“Bydd fy syniadau yn parhau i gael eu hysbrydoli gan arfordir Cymru a bywyd o amgylch yr arfordir.”

Ar y gweill

Ar hyn o bryd, dywedodd y gof arian ei bod yn meddwl am ei harddangosfa nesaf yn Lle Celf yr Eisteddfod eleni.

Mae hi eisoes wedi ennill y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol 2008.

Mae hefyd yn paratoi ar gyfer digwyddiad i nodi pen-blwydd cyntaf ei galeri personol ‘Suzie Horan Contemporary Jewellery & Design’ yng Nghaerdydd ar 21 Mai.