Canolfan Pontio
Mae un o brif arlunwyr Cymru wedi galw am gasgliad celf parhaol yn rhan o ddatblygiad Pontio ym Mangor i “ddathlu” gwaith arlunwyr y gogledd.

Mewn llythyr agored at brifysgol Bangor a nifer o bwysigion yn y byd celf, mae David Woodford, y tirluniwr nodedig o Nant Ffrancon, yn cwyno bod diffyg darpariaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yng nghynlluniau Pontio.

Dywedodd ei fod yn “arbennig o siomedig” nad yw’n fwriad “rhoi sylw i’r angen am gasgliad o gelfyddyd gain o bwys a bri yng ngogledd Cymru”.

Yn ôl David Woodford, gallai casgliad parhaol dynnu sylw at draddodiad cryf arlunio yng ngogledd Cymru a chadw enwau’r arlunwyr yn fyw – yn eu plith Peter Prendergast, Kyffin Williams ac Elwyn Jones.

“Mae’r ardal yma wedi bod yn fagwrfa i gelfyddyd ers canrifoedd,” meddai David Woodford, sydd am weld oriel barhaol o dan yr enw ‘Casgliad Cenedlaethol Gogledd Cymru’ – “mi fyddai angen rhoi teitl mor grand â phosib er mwyn rhoi awdurdod iddo.”

“Beth sy’n bwysig yma yw ein bod ni yn gweithio er budd gwaith sydd eisoes yn bodoli; dros fywydau sydd eisoes wedi’u byw. Mi allwn i enwi cannoedd o enwau sydd eisoes wedi’u hanghofio. Mae angen hyn.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 7 Ebrill